Cytundeb trwyddedu
Cyngor Caerdydd sy'n berchen ar y Porth Mapio ac yn ei reoli.
Isod mae'r telerau a'r amodau a fydd, ynghyd ag unrhyw
hysbysiadau cyfreithiol eraill ar y Porth Mapio, yn cynrychioli'r
holl delerau a'r amodau a fydd ynghlwm ā defnyddio'r setiau
data a gasglwyd ac a gynhelir gan Gyngor Caerdydd ("Setiau
Data'r Awdurdod"), sy'n gysylltiedig ā defnyddio'r Mynegai Tir
ac Eiddo Cenedlaethol a'r Mynegai Strydoedd Cenedlaethol.
Bydd parhau i ddefnyddio'r Porth Mapio yn dynodi eich bod yn
derbyn i gael eich rhwymo gan y telerau a'r amodau hyn. Os na
fyddwch chi'n cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau a'r
amodau hyn, dylech roi'r gorau i ddefnyddio'r Porth Mapio.
Mae'r telerau a'r amodau ar gyfer y cytundeb trwydded hwn fel
a ganlyn:
Mae setiau data'r Awdurdod yn gysylltiedig ā defnyddio'r
Mynegai Tir ac Eiddo Cenedlaethol a'r Mynegai Strydoedd
Cenedlaethol. Mae'r wybodaeth ar y Porth Mapio wedi'i dynnu o
waith sydd dan hawlfraint yn eiddo i'r Local Government
Information House Limited a Chyngor Caerdydd.
Caniateir i chi argraffu un sgrin o'r canlyniadau ar ōl chwilio
drwy setiau data'r Awdurdod, at eich defnydd eich hun.
Ni chewch chi dynnu nac ailddefnyddio gwybodaeth sy'n deillio
o Setiau Data'r Awdurdod ac/neu unrhyw gopļau o wybodaeth
o'r fath (boed ar ffurf electronig neu gopi caled) ar gyfer unrhyw
bwrpas masnachol neu bwrpas busnes gan gynnwys (ond nid yn
unig) masnachu, casglu data adeiladu masnachol, ailwerthu neu
ailddosbarthu gwybodaeth o'r fath.
Nid oes gennych hawl i newid, addasu, trefnu, diwygio,
cymhwyso nac ychwanegu at unrhyw wybodaeth sy'n deillio o
Setiau Data'r Awdurdod, nac hawl i gyfuno gwybodaeth o'r fath
gyda systemau mapio eraill neu ddarnau eraill o ddata a
gwybodaeth, gan gynnwys, er mwyn osgoi amheuaeth, unrhyw
wybodaeth arall o'r fath sydd i'w chael ar y Porth Mapio.
Ar wahān i'r hyn a ganiateir o dan baragraff 2 uchod, ni cheir
ailgynhyrchu, copļo, llwytho, storio, recordio, darlledu,
trawsyrru, dosbarthu, dad-grynhoi, cildroi yn beiriannol na
dadosod unrhyw ran o'r Porth Mapio heb gael caniatād
ysgrifenedig ymlaen llaw.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau nad yw unrhyw wybodaeth sy'n
deillio o Setiau Data'r Awdurdod, boed ar ffurf electronig heb ei
hamgryptio neu ar ffurf copi caled, yn dod i feddiant unrhyw
drydydd parti a allai geisio defnyddio'r map yn groes i'r telerau
a'r amodau hyn.
Rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith os byddwch chi'n
ymwybodol fod trydydd parti yn defnyddio gwybodaeth sy'n
deillio o Setiau Data'r Awdurdod yn groes i'r telerau a'r amodau
hyn neu os bydd unrhyw un o nodau masnachu'r Porth Mapio yn
cael eu torri.
Ni fyddwn yn atebol i unrhyw berson neu sefydliad mewn
perthynas ag unrhyw golled neu ddifrod a ddaw o ganlyniad
uniongyrchol neu anuniongyrchol i ddefnyddio'r wybodaeth
oddi ar y Porth Mapio.
Byddwn yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y
wybodaeth ar y Porth Mapio mor gywir ā phosibl. Fodd bynnag,
mae'r gwasanaethau sydd wedi'u cynnwys ar y Porth Mapio'n
cael eu darparu "fel y maent", a bydd unrhyw warantau, amodau
a thelerau eraill sydd yn ymhlyg drwy statud neu gyfraith gwlad,
cyn belled ag y bydd y gyfraith yn caniatįu hynny, wedi'u
heithrio. Ni fyddwn yn atebol i chi am unrhyw golled
anuniongyrchol neu ōl-ddilynol (boed hynny'n golli elw, colli
busnes, dihysbyddu ewyllys da neu fel arall), costau, treuliau
neu hawliadau eraill am iawndal ōl-ddilynol o unrhyw fath (sut
bynnag y cafodd ei achosi) sy'n deillio o ddefnyddio'r Porth
Mapio neu'n gysylltiedig ā hynny.
Diogelu data
Bydd Cyngor Caerdydd bob amser yn ceisio cydymffurfio ā
phob gofyniad statudol gan gynnwys y Ddeddf Diogelu Data
(1998) wrth weithredu.
Ymwadiad
Mae Cyngor Caerdydd yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth mae'n
ei chyhoeddi ar y wefan wedi'i diweddaru ac yn gywir. Fodd
bynnag, nid yw'r wybodaeth ar y wefan yn gyngor cyfreithiol
nac yn gyngor proffesiynol ac ni all y Cyngor dderbyn unrhyw
atebolrwydd am unrhyw golled a ddaw o ganlyniad i
ddefnyddio'r safle hwn mewn unrhyw ffordd. Ni all y Cyngor
fod yn gyfrifol am ddata, polisļau, gweithdrefnau na chynnwys
unrhyw dudalennau sy'n agor o ddolen allanol ar y safle hwn.
Hawlfraint
Atgynhyrchwyd o ddeunydd yr Arolwg Ordnans gyda chaniatād
Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa ei Mawrhydi ©
hawlfraint y Goron.
Bydd atgynhyrchu heb ganiatād yn torri hawlfraint y Goron a
gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil.
Arolwg Ordnans
100023376 (2005)
Cynhyrchwyd y copi hwn yn benodol i ddarparu gwybodaeth ar
ran yr awdurdod ac ni cheir creu rhagor o gopļau.
|